Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 12 Chwefror 2018

Amser: 14.02 - 17.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4507


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Adam Price AC

Lee Waters AC

Tystion:

Harri Colman, Fabric

Christopher Dunn, Voices from Care Cymru

Deborah Jones, Voices from Care

Kate Lawson, Y Rhwydwaith Maethu

Sean O’Neill, Plant yng Nghymru

Colin Turner, Y Rhwydwaith Maethu

Swyddfa Archwilio Cymru:

Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Cyfarfod â phlant a phobl ifanc

1.1 Cyfarfu'r Aelodau'n anffurfiol â'r bobl ifanc cyn y sesiynau tystiolaeth.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.3 Yn dilyn cais gan y bobl ifanc a oedd yn rhoi tystiolaeth yn eitemau 4 a 5, cytunodd y Cadeirydd i gynnal y sesiynau hyn yn breifat.

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

4       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 3

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan bobl ifanc o Voices from Care fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

</AI4>

<AI5>

5       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 4

5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Harri Coleman, ynghyd â phobl ifanc o Voices from Care, fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

 

</AI5>

<AI6>

6       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 5

6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Kate Lawson a Colin Turner o'r Rhwydwaith Maethu fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

6.2 Cytunodd Kate Lawson i anfon enghreifftiau o arfer gorau o ran mesur effaith maethu o'i phrofiad yn Lloegr.

6.3 Cytunodd Colin Turner i anfon manylion ynghylch sesiynau sydd ar y gweill fel rhan o'r prosiect ‘Ten top key principles of social pedagogy’.

 

</AI6>

<AI7>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

8       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI8>

<AI9>

9       Y rhaglen waith: ystyried gohebiaeth a ddaeth i law

9.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gynhyrchu ffilm a theledu, a fydd yn cynnwys edrych ar dryloywder a chyllid grant.

9.2 Cadarnhaodd yr Aelodau y byddent yn awyddus i weld astudiaeth o'r ffeithiau yn unig yn edrych ar y buddsoddiad yn Pinewood, gan eu bod yn teimlo y byddai hyn o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a/neu'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

</AI9>

<AI10>

10   Ofcom: trafod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft

10.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan ei nodi. Awgrymwyd y dylid ystyried bod y Pwyllgor perthnasol yn cynnal gwrandawiadau cyn penodi, ac y dylid adlewyrchu hyn yn yr ymateb i Lywodraeth Cymru.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>